Postcards from home workshop
Yn dilyn llwyddiant prosiect Journals, lansiodd Cymdeithas Celfyddydau Menywod Postcards From Home ym mis Ionawr 2008, prosiect celf gymunedol deuddeg mis yn cynnig gweithdai creadigol i fenywod yn ninas Caerdydd.
Mae’r prosiect yn cynnig cyfleoedd i fenywod i greu casgliad o waith celf ar gyfer arddangosfa, fel ymateb i synnwyr lle; gall yn gynnwys themâu megis bywyd cartrefol, cymdogaeth leol, y ddinas, lle dychmygol neu le o gof.
Gyda chefnogaeth ac arweiniad artistiaid proffesiynol, Holly Davey, Judy Foote a Becky Adams, gall fenywod gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithdai celf weledol ar bynciau megis technegau collage, tecstilau, ffotograffiaeth a cherflunio.
Mae gweithgareddau gweithdai wedi eu dylunio i roi cyflwyniad i gelf weledol yn ogystal ag ymgorffori diddordebau’r rhai yn y grwpiau. Mae’r sesiynau yn rhedeg yn wythnosol dros gyfnod o 15 wythnos, maent yn rhad ac am ddim i’w mynychu ac yn cael eu cynnal mewn adeiladau cyraeddadwy gyda darpariaeth crèche, cyfieithwyr a lluniaeth.
Lucy Lilley – Rheolwr Cynllun
Ebost: projects@womensarts.co.uk
Ffôn:02920487850