Mae Diwrnod Rhyngwladol Menywod (8fed o Fawrth) yn achlysur sy’n cael ei nodi gan fenywod ledled y byd. Daw menywod at ei gilydd i ddathlu’r diwrnod; i gydnabod llwyddiannau menywod a’r sialens i ennill cyfartaledd, cyfiawnder, heddwch a datblygiad.
2008
Synchronicity: cyfres o arddangosfeydd a digwyddiadau arbennig yng Nghaerdydd, yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2008. Eleni, bu i’r dathliadau eu hariannu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Chyngor Sir Caerdydd.
ARDDANGOSFA GELF AGORED
Jacqueline Alkema
Gofod Arddangos, Neuadd y Dref, y Barri
Arddangosfa eclectig o waith celf gan aelodau o Gymdeithas Celfyddydau Menywod. Thema arddangosfa 2008 oedd Llenyddiaeth - gwaith wedi ei ysbrydoli gan farddoniaeth beirdd enwog, clasuron ym myd nofelau, anwiredd a straeon byrion.
BODY ECHOES
Body Echoes Jan Bennet
Oriel Cynfas, Caerdydd
Arddangosfa ddigidol yn dangos gwaith artistiaid gwadd -- Jan Bennett, Maria Hayes a Virginia Head. Roedd eu gwaith yn archwilio’r corff dynol wrth iddo freuddwydio, dawnsio ac wynebu’r dyfodol. Bu iddo gael ei guradu gan Bambo Soyinka ar gyfer Cymdeithas Celfyddydau Menywod.
Penwythnos Dathlu- Sadwrn 8fed a Sul 9fed Mawrth
POST CARDS FROM HOME Prosiect Celf Gymuned 2008
Postcards from Home, workshop
Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Caerdydd
Diwrnod difyr o weithdai creadigol rhad ac am ddim wedi eu harwain gan artistiaid y prosiect. Yn ogystal â hyn, bu i Opera Cenedlaethol Cymru redeg gweithiai yn rhan o’u prosiect Menywod y Bae yn Canu
DIGWYDDIAD ADRODD STORI
Storytelling
Butetown History & Arts Centre, Caerdydd
Cyfle i fenywod ddathlu ac ymchwilio eu hetifeddiaeth drwy gyfnewid straeon, atgofion a phrofiadau - diwrnod ysbrydoledig wedi ei arwain gan storïwr proffesiynol.
Photography: Jenny Potter © 2008