Cynllun Journals

Bu i brosiect celf gymuned 2007 Cymdeithas Celfyddydau Menywod, Journals, redeg cyfres o weithdai creadigol ledled Caerdydd lle bu menywod yn recordio - trwy amryw o ffurfiau celf - eu bywyd dyddiol, eu hatgofion a’u breuddwydion.  

Amcan y prosiect oedd darparu amser ar gyfer menywod o bob cefndir i ganolbwyntio arnynt eu hunain ac ar ei gilydd drwy ddulliau creadigol.  Bu’r gweithdai yn rhad ac am ddim ac mewn adeiladau cyraeddadwy lleol, gyda darpariaeth crèche, cyfieithwyr a lluniaeth.

Arweinwyr y gweithdai oedd yr artistiaid proffesiynol:
Susan Richardson - bardd ac ysgrifennwr creadigol
Ellie Reynish - artist celf weledol
Jane Taylor - gwneuthurwraig print
Aimee Timms - gwneuthurwraig ffilm

Bu i’r Gymdeithas weithio mewn partneriaeth â Chelfyddydau Anabledd Cymru, y South Riverside Community Development Centre a Chymunedau yn Gyntaf, i  ddarparu gweithdai yn Nhreganna, Ely, Riverside a Butetown.

Wedi llwyddiant yr arddangosfa yn Butetown History and Arts Centre, bu’r dyddiaduron, ffilmiau bychain, barddoniaeth a phrintiau grŵp ar gael i’w gweld yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Caerdydd o Ragfyr 2007 - Ebrill 2008.

Yn dilyn llwyddiant yr arddangosfa yng Nghanolfan Hanes a Chelf Butetown bydd y casgliad o ysgrifau ffilmiau byr, barddoniaeth grwpiau a phrintiadau ar gael i’w gweld o’r 15fed o Ragfyr 2007 – 6ed o Ebrill 2008 yn St. Ffagan: Amgueddfa Hanes Cenedlaethol Caerdydd