Workshops
Rydym yn rhedeg gweithdai ar gyfer grwpiau menywod ar safle ‘Shirenewton Travellers’ a chanolfan Woman Connect First yn Riverside, Caerdydd ar hyn o bryd.
Arddangosfeydd Grŵp
Bydd y grwpiau yn arddangos gwaith celf fel sioe sleidiau digidol o gardiau post yn ystod perfformiad byw gan aelodau o brosiect Menywod y Bae yn Canu, Opera Cenedlaethol Cymru, yng Nghanolfan y Mileniwm, 12fed Gorffennaf 2008.
Rydym yn anelu i arddangos y gwaith gan y grwpiau sydd wedi cyfrannu, mewn arddangosfa yng nghanol dinas Caerdydd ym mis Medi/Hydref.
A allwch chi fod yn rhan?
Mae Cymdeithas Celfyddydau Menywod yn gweithio’n agos â sefydliadau cymunedol er mwyn darganfod ac adnabod cyfranogwyr ar gyfer ein prosiectau.
Rydym yn croesawu ymholiadau gan grwpiau neu unigolion sy’n dangos diddordeb ac sy’n dymuno mynychu gweithdai. Mae gennym hefyd y gallu i gynnal prosiectau mewn ardaloedd lleol.
O fis Mehefin bydd rhaglen haf o weithdai ar gael yn ardal Butetown Caerdydd. Os ydych am archebu eich lle ar y gweithdy haf neu drafod sut i fod yn rhan o’n prosiectau, cysylltwch â:
Lucy Lilley - Rheolwr Prosiectau Celf Gymunedol
E-bost: projects@womensarts.co.uk
Ffôn : 02920 487850