Arddangosfa

 

Llwybr Celf Gymunedol Postcards From Home

Yn ystod y flwyddyn, bu grwpiau prosiect yn creu casgliad o gardiau post, tecstilau, mapiau collage a dyluniadau finyl â llaw, wedi eu hysbrydoli gan y thema, cartref.

O 13eg - 27ain, mis Medi, bu i’r gwaith celf gael ei gyflwyno ar sgrin ddigidol Queen Street ac fel gosodiad ‘ystafell fyw’ yn yr Hen Lyfrgell, Yr Aes, gan lunio Llwybr Celf Gymunedol yng Nghanol Dinas Caerdydd. Roedd y Llwybr Celf yn cynnig rhaglen o weithdai celf i’r cyhoedd, fel eu bod yn medru creu cardiau post i’w arddangos a’u cludo adref.